Nic Dafis · @nic
797 followers · 5750 posts · Server toot.wales

Dechrau ar gyfrol olaf trioleg ffantasi , wedi tipyn o hoe ers i fi ddarllen yr un diwetha. Edrych ymlaen

app.thestorygraph.com/books/b0

#TadWilliams #DarllenNawr

Last updated 1 year ago

Nic Dafis · @nic
781 followers · 5418 posts · Server toot.wales

Newydd ddechrau “Ducks, Newburyport” gan , ac wedi darllen y rhan fwya o’r brawddegau yn y nofel eisoes, mae’n debyg.

Ar @dyfrig mae’r bai am hyn

app.thestorygraph.com/books/51

#lucyellmann #DarllenNawr #ducksnewburyport

Last updated 1 year ago

Nic Dafis · @nic
779 followers · 5335 posts · Server toot.wales

Newydd orffen cofiant gwych Jane Aaron am “Cranogwen”; agoriad llydan llwyr. Arwres!

Hwn o gasgliad straeon byrion sy nesa, wedi dechrau adeg y Vollmann-rhy-fawr-i-fynd-i’r-dafarn, a ddaeth i’m sylw trwy sianel YouTube Leaf By Leaf app.thestorygraph.com/books/6d

#DarllenNawr

Last updated 1 year ago

Nic Dafis · @nic
772 followers · 5174 posts · Server toot.wales

Ddim wedi cael y fath profiad ers darllen “Moby Dick” ar ynys Nantucket

app.thestorygraph.com/books/5b

#DarllenNawr #cranogwen #janeaaron

Last updated 1 year ago

Nic Dafis · @nic
765 followers · 4690 posts · Server toot.wales

Mae Mastodon wedi arafu eto, ac mae’n edrych fel glaw, felly cyfle i fi fwrw ymlaen gyda’r bwystfil yma; nofel 1300 tudalen ar hanes Rhyfel y Nez Percé. WTV yw un o fy hoff nofelwyr, ond mae angen bod yn y lle iawn i fynd mewn i’w fyd unigryw - a phob nofel yn fyd gwahanol i’r lleill!

Dyma’r pumed o’i gyfres “Saith Breuddwyd: Llyfrau Tirwedd Gogledd America”, ond y trydydd i fi ddarllen, ac efallai’r 4ydd i gael ei gyhoeddi?

app.thestorygraph.com/books/14

#sevendreams #williamtvollmann #DarllenNawr

Last updated 1 year ago

Nic Dafis · @nic
748 followers · 4502 posts · Server toot.wales

Prynwyd mewn siop elusen yn Llanfair-ym-Muallt ddoe, rhywbeth ar gyfer y daith adre heddi.

app.thestorygraph.com/books/ea

#scifi #DarllenNawr #gwyddonias #joehaldeman

Last updated 1 year ago

Nic Dafis · @nic
742 followers · 4438 posts · Server toot.wales

Ail-ddarllen hwn gan mod i wedi dod ar wyliau heb ddigon o lyfrau a wnaeth Philippa orffen hwn yr un amser â finne dod i ben â

Dim cof o gwbl o’r llyfr, 9 mlynedd ar ôl i fi ddarllen am y tro cyntaf, ond mae’n wych.

app.thestorygraph.com/books/14

#DarllenNawr #tovejansson #TadWilliams

Last updated 1 year ago

Nic Dafis · @nic
734 followers · 4263 posts · Server toot.wales

Roedd gorffen llyfr braidd yn dalcen caled, er bod y darn ola un — am brotestiadau Seattle 1999 — yn uchafbwynt, felly dw i’n fallch i fi gadw i fynd.

Mynd yn ôl i rywun o’n i’n darllen yn y 90au cynnar, i weld a ydy wedi dyddio’n well na’r “Archdderwydd” bondigrybwyll.

app.thestorygraph.com/books/44

#DarllenNawr #murraybookchin #davidbrower

Last updated 2 years ago

Nic Dafis · @nic
735 followers · 4227 posts · Server toot.wales

Llyfr ges i yn Oxfam bwyddiwrnod, a’i brynu oherwydd y ddalen-nodyn oedd ynddo, o siop lyfrau Boulder, Colorado. Mae personaliaeth Dave Brower braidd yn wrthyn i fi, ond mae’n ddiddorol darllen am ei hanes, a’r mudiad amgylcheddol yn UDA ail hanner y ganrif ddiwethaf. app.thestorygraph.com/books/a7

#DarllenNawr

Last updated 2 years ago

Nic Dafis · @nic
734 followers · 4175 posts · Server toot.wales

Newydd ddechrau Jamaica Inn gan - Penguin o 1973, gyda’r arysgrif “Bought at Jamaica Inn 24/7/73”

app.thestorygraph.com/books/7b

#DarllenNawr #daphnedumaurier

Last updated 2 years ago

Nic Dafis · @nic
732 followers · 4112 posts · Server toot.wales

Os dych chi’n newydd i’r , dyma her darllen i chi ddysgu mwy am y ffordd mae’n gweithio
app.thestorygraph.com/reading_

#DarllenNawr #StoryGraph

Last updated 2 years ago

Nic Dafis :pannas: · @nic
695 followers · 3490 posts · Server toot.wales

VVVVVVVVVV
VVVVVVVVV
VVVVVVV
VVVVV
VVVV
VVV
VV
V .

#ThomasPynchon #DarllenNawr

Last updated 2 years ago

Nic Dafis · @nic
678 followers · 3108 posts · Server toot.wales

Mae’r tywydd yn rhy wyllt i fynd am dro rhwng y dosbarthiadau, felly gobeithio gorffen New Dark Age gan @jamesbridle ac efallai dechrau ar Ways of Being cyn i’r criw nesaf o ddysgwyr gyrraedd.

#DarllenNawr #dysgucymraeg

Last updated 2 years ago

Nic Dafis · @nic
674 followers · 3036 posts · Server toot.wales

Bach o newid yn y patrem , gan fy mod i’n sylweddoli bod myfyrwyr ‘da fi sy’n darllen mwy yn y Gymraeg nag ydw i.

#DarllenNawr

Last updated 2 years ago

Nic Dafis · @nic
670 followers · 3007 posts · Server toot.wales
Nic Dafis · @nic
662 followers · 2874 posts · Server toot.wales

Ddim yn wneud rhyw lawer o ail-ddarllen y dyddiau hyn, ond mae'r chwaer wedi prynu'r ail a thrydedd gyfrol yn y gyfres hon i fy mhenblwydd, ac mae'n ddwy flynedd ers i fi ddarllen y gyntaf, felly does dim cof ohoni o gwbl - oni bai am y cof o'i mwynhau mas draw. app.thestorygraph.com/books/2d

#beckychambers #DarllenNawr #StoryGraph

Last updated 2 years ago

Nic Dafis · @nic
657 followers · 2858 posts · Server toot.wales

Sa i’n gwybod cweit beth o’n i’n disgwyl gan hwn, ond dw i yng nghanol y fersiwn gorau o chwedl Culhwch ac Olwen dw i erioed wedi darllen.

#DarllenNawr

Last updated 2 years ago

Nic Dafis · @nic
655 followers · 2778 posts · Server toot.wales

Esgus mod i’n darllen fersiwn Iseldireg o’r clasur hwn, er mwyn hawlio pedair nofel ar wahan i fy ystadegau , yn lle’r un am y gyfres o bedair mewn un gyfrol, sef y fersiwn dw i’n actiwali yn ei darllen app.thestorygraph.com/books/19

#DarllenNawr #StoryGraph

Last updated 2 years ago

Nic Dafis · @nic
652 followers · 2676 posts · Server toot.wales

Profi wneud dolen o app - ydy hyn yn gweithio?

- Johnny I Hardly Knew You

app.thestorygraph.com/books/e9

#DarllenNawr #EdnaOBrien #StoryGraph

Last updated 2 years ago

Nic Dafis · @nic
644 followers · 2493 posts · Server toot.wales

Dal ar hyn, a ddim hanner ffordd trwyddo eto. Mae’n ddarllenadwy, ond yn ailadroddus iawn. Wedi gorfod rhoi’r gorau i’r fersiwn sain, gan fy mod i’n colli amynedd, a dw i’n darllen yn glouach na’r cyflymder ucha dw i’n gallu gwrando arno.

#DarllenNawr

Last updated 2 years ago