Nôl at y casgliad o feinyl #ClayPipe, a ffefryn arall, sef “Adlestrop” #GilroyMere (Pipe 025). Mae'r albym wedi'i seilio ar gerdd o'r un enw gan #EdwardThomas, a'r trac yma'n cynnwys y gerdd yn ei ghyfanrwydd.
#claypipe #gilroymere #edwardthomas #gwrandonawr #feinyl
Districts, Roads, Open Space
gan #WarringtonRuncornNewTownDevelopmentPlan
Un o’r pethau newydd (er mai ail-ryddhad yw hwn) ges i o @LogoFiasco yr wythnos diwetha, a dim ond nawr yn setlo lawr i'w wrando. Swnio'n wych ar y stereo mawr. Ces i'r fersiwn “Cymylau Duon”, sy'n bert iawn.
https://warrington-runcorn-cis.bandcamp.com/album/districts-roads-open-space
#warringtonruncornnewtowndevelopmentplan #gwrandonawr #feinyl #hauntology
Wedi cipio copi #feinyl o albym newydd #JuniorBill, band Rob Nichols o Gaerdydd.
Ro'n i'n arfer gwarchod brawd mawr Rob pan oedd e'n fabi, a chyn i Rob gael ei eni, sy bach yn frawychus.
#feinyl #juniorbill #cerddoriaeth #caerdydd
Hei Vidal! Ar Feinyl! Mae'r fersiwn feinyl newydd o Hei Vidal! yn cyfarfod y fersiwn gwreiddiol ar CD o 1992. #feinyl #vinyl #ffacoffibawb #cymraeg #chiwns
#feinyl #vinyl #ffacoffibawb #cymraeg #chiwns
Record newydd yn y post ddoe, ac mae’n hymdingar. Dw i’n pendwmpian fy ffordd trwyddo, gan mod i ar ddihun ers 4.00, ond mae’n berffaith fel cyd-ymdeithiwr ym myd y breuddwydion.
Cate Brooks - Easel Studies (@ClayPipeMusic)
Rhywbeth o'r bocs @ClayPipeMusic nesaf - “Inner Roads and Outer Paths" gan #VicMars
https://vicmars.bandcamp.com/album/inner-roads-and-outer-paths-2
#vinyl #feinyl #gwrandonawr #vicmars
Haig Fras - recordiau maes yw sylfaen y casgliad hyfryd yma, sy’n cael ei ysbrydoli gan, a’i enwi ar ôl, y mynyddoedd dan ddŵr rhwng Cernyw ac Iwerddon.
#gwrandoNawr #feinyl #vinyl https://urthona.bandcamp.com/album/luminous-foundation-presents-haig-fras
Hen feinyl newydd! Un o gyhoeddiadau cynharaf @ClayPipeMusic, wedi’i ail-wasgu mewn feinyl brith-dryloyw. Braf iawn cael ychwanegu hyn at fy nghasgliad Clay Pipe, ac i'r artistiaid gael yr arian, nid y fflipwyr digywilydd ar discogs.
http://www.claypipemusic.co.uk/2023/05/tyneham-house-10-coloured-marble-vinyl.html
#francescastle #claypipe #vinyl #feinyl
“London… have you got Trouble? You’ve got WhiteSNAAAAAKE!”
Methu teimlo’n euog am hyn, yr ail fand i fi weld yn fyw, yn fachgen 14 oed, a’r gig cynta yng Nghymru: Canolfan Hamdden Cei Connah. Whitesnake on Ice.
Records newydd heddi:
#Mudhoney - Plastic Eternity
Unfed albwm ar ddeg gan yr arloeswyr grunge o Seattle. Ddim yn torri cwys newydd, ond mae'r dyfalbarhad yn talu.
#Wednesday - Rat Saw God
Prynwyd ar sail y senglau, "Chosen to Deserve" a "Bull Believer". Wedi bod yn gwrando ar hyn droeon, fellly werth cael copi caled.
#NewOrder - Blue Monday
Oedd copi 'da fi, o'r amser i fi weithio ar y cownter records yn Woolworths, Croesoswallt, ond mae wedi hen fynd.
#vinyl #feinyl #neworder #wednesday #mudhoney
Bach o #feinyl ail-law o siop y Groes Goch heddi, gan gynnwys hwn gan #LionaBoyd, y gitarydd clasurol.
Rhaid cyfadde bod yr enw’n newydd i fi, a phrynais i oherwydd y clawr 3D, ond dw i’n edrych ynlaen at wrando nes ymlaen.
Tro cynta i fi gael y tri albym ‘ma ar feinyl. Om nom nom nom.
Three Queens in Mourning/ Bonnie Prince Billy - Hello Sorrow/Hello Joy
Ron i wedi anghofio’n llwyr am hyn, ‘set ti wedi dweud wrtha i bod Alistair Roberts, Alex Neilson a Jill O’Sullivan wedi recordio albym o ganeuon Will Oldham, ac ynteu wedi dewis un yr un o’u caneuon nhwthau, byddwn i wedi mynd yn syth at Juno i drial cipio copi, ond mae gyda fi eisioes, wedi cilio mewn cornel tywyll y silfoedd. Gwych gwychter.
Methu ffeindio'r tŵt gwreiddiol ond diolch i bwy bynnag rannodd hyn: Archif Feinyl Llyfrgell Gyhoeddus Boston ar yr @internetarchive
#vinyl #feinyl #archive #archif
Cael wir blas ar albym #SisterWives - feibs perffaith y 70au cynnar, dyfynnu o’r cewri (ha), o’u cerddoriaeth i’w dillad. Mynnwch gopi feinyl glas golau cyn iddyn nhw fynd.
#feinyl #vinyl #psychedelia #CerddoriaethGymraeg #SisterWives