Mae CULT Cymru yn chwilio am Gydlynydd #iechydMeddwl a Lles i weithio gyda'u tîm bach cyfeillgar ar gytundeb cyfnod penodol rhan-amser tan ddiwedd mis Mawrth 2024. Bydd y rôl yn un difyr a phrysur, gweler y ddolen isod am swydd ddisgrifiad llawn.
Swyddfeydd yng Nghaerdydd ond yn hapus i drafod gweithio hyblyg.
Buasai’n ddymunol cael ymgeiswyr sy’n gallu gweithio trwy gyfrwng Gymraeg ond nid yw hyn yn hanfodol.
Dyddiad cau: 31/07/2023
https://cult.cymru/cy/swydd-cult-cymru/
#CULTCymru yn awyddus iawn i dderbyn ceisiadau cyn d.Mawrth gan siaradwyr #Cymraeg sydd am weithio yn y sector creadigol:
Cydlynu prosiect #iechydmeddwl oriau amser llawn, cyflog pro rata £30k+ tan ddiwedd mis Mawrth 2024.
Rhannwch, neu tagiwch gyfoedion plis!
#iechydmeddwl #cymraeg #cultcymru
"ni’n aml yn clywed mai un o’r ffyrdd gorau i oresgyn neu ymdopi gyda salwch meddwl yw siarad gyda rhywun, i gyfathrebu ein teimladau, emosiynau a’n gofidion. Os ydy unigolyn gyda salwch meddwl yn derbyn cymorth o wasanaeth lles proffesiynol yng Nghymru, gan amlaf, bydd y broses cyfathrebu yma, sydd mor hanfodol i wellhad yr unigolyn, yn digwydd trwy’r Saesneg. Yn sgil hyn, mae’n debygol fod rhwystr ieithyddol yn atal nifer o siaradwyr Cymraeg..." @meddwl #iechydmeddwl https://meddwl.org/myfyrdodau/gwasanaethau-lles-yn-gymraeg/
Os yw bywyd yn un frwydr,
Os yw’r daith yn flin a hir,
Gwna be fedri di am rŵan,
Ti dy hun sy’n bwysig, wir.
Cerdd ‘Dolig’ - Elin Angharad Davies
#meddwlarddyddllun #iechydmeddwl
Peidiwch â chymharu eich #Nadolig chi gyda’r portreadau o’r Nadolig perffaith a welwn ar gyfryngau cymdeithasol neu ar hysbysebion. Mae pobl ond yn rhannu’r darnau da, a does gyda ni ddim syniad beth sy’n mynd ymlaen y tu ôl i’r sgrin.
Gwna beth wyt TI eisiau, nid beth sy’n ddisgwyliedig i ti wneud 🤍
#meddwlarddyddllun #iechydmeddwl
Mae’n iawn dweud ‘na’.
#iechydmeddwl #meddwlarddyddllun
Gall cyfnod y #Nadolig fod yn gyfnod hapus a llawen, ond gall hefyd fod yn adeg heriol iawn o’r flwyddyn.
Dyma rai awgrymiadau allai fod yn ddefnyddiol dros gyfnod yr ŵyl: https://meddwl.org/erthyglau/nadolig/
#anhwylderbwyta #gorbryder #iselder #galar #iechydmeddwl #Nadolig
"Mae 'na gymaint o bobl rownd ti, maen nhw eisiau dy helpu di..."
Galar oedd thema pennod gyntaf ein podlediad 'Tu ôl i'r Wên': https://www.youtube.com/watch?v=YYvNw_lY9CU&feature=emb_imp_woyt
#WythnosYmwybyddiaethGalar @SaraMaredudd@twitter.com @rhysbidder@twitter.com @ABCaerdydd@twitter.com @LlaisCymruWales@twitter.com @ypodcymru@twitter.com #Galar #IechydMeddwl
#iechydmeddwl #galar #wythnosymwybyddiaethgalar
"Er mwyn gallu buddio o’r therapi, rhaid canfod y geiriau sy’n gwneud cyfiawnder â’r hyn sy’n digwydd yn y meddwl. Yn reddfol, i nifer o siaradwyr Cymraeg, bydd y meddyliau mewnol yma’n digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg." @alice_jewell1@twitter.com
#IechydMeddwl https://meddwl.org/myfyrdodau/gwasanaethau-lles-yn-gymraeg/
✍️BLOG NEWYDD: 'Pam fod darparu gwasanaethau lles yn Gymraeg yn bwysig?' gan @alice_jewell1@twitter.com
"Mae’r diffyg gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael i siaradwyr Cymraeg yn fater o ddiffyg hygyrchedd i gymorth #IechydMeddwl"
➡️ https://meddwl.org/myfyrdodau/gwasanaethau-lles-yn-gymraeg/
Mae @HywelDdaHB@twitter.com wedi lansio llinell gymorth 24/7 ar gyfer cymorth llesiant ac #IechydMeddwl i drigolion Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro ⬇️
https://biphdd.gig.cymru/newyddion/datganiadau-ir-wasg/llinell-gymorth-llesiant-ar-gael-247/
Mae’n rhaid i ti dderbyn pwy wyt ti
Cyn medri fynd ymlaen i daclo heriau’r byd.
Gwareda’r holl feddyliau ffôl.
Yr anrhefn yn dy ben sydd yn mynnu’th ddal di nôl.
Geiriau gan Rhydian Meilir a Ffion Gwen o gân @NerthDyBen@twitter.com
#iechydmeddwl #meddwlarddyddllun
➡️ Anfonwch ddisgrifiad byr o'r hyn y gallwch gynnig at gwefanmeddwl@gmail.com erbyn 30 Tachwedd 2022, neu cysylltwch am ragor o wybodaeth.
➡️ Rydym yn arbennig o awyddus i groesawu ceisiadau gan unigolion o gefndiroedd sydd wedi’u tangynrychioli. [2/2]
Er maint sydd yn y cwmwl tew
O law a rhew a rhyndod,
Fe ddaw eto haul ar fryn,
Nid ydyw hyn ond cawod. 🌤
#iechydmeddwl #meddwlarddyddllun
- Ffrindiau, teulu, gofalwyr a chymdogion
- Cymorth gan gymheiriaid
- Gwasanaethau cymorth cymunedol
➡️ https://meddwl.org/cymorth/
#IechydMeddwl #Cymorth [2/2]
Pen-blwydd hapus i ni! 🥳🎉
I ddathlu 6 blynedd o meddwl.org, defnyddiwch y cod 'chwech' i gael 50% oddi ar grysau-t, bathodynnau a llyfrau ar ein gwefan heddiw!
#elusen #cymraeg #iechydmeddwl
Mae https://meddwl.org yn lle i gael cefnogaeth, gwybodaeth a phrofiadau iechyd meddwl – i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg. #iechydmeddwl