Os yw bywyd yn un frwydr,
Os yw’r daith yn flin a hir,
Gwna be fedri di am rŵan,
Ti dy hun sy’n bwysig, wir.
Cerdd ‘Dolig’ - Elin Angharad Davies
#meddwlarddyddllun #iechydmeddwl
Gwna beth wyt TI eisiau, nid beth sy’n ddisgwyliedig i ti wneud 🤍
#meddwlarddyddllun #iechydmeddwl
Mae’n iawn dweud ‘na’.
#iechydmeddwl #meddwlarddyddllun
Mae’n rhaid i ti dderbyn pwy wyt ti
Cyn medri fynd ymlaen i daclo heriau’r byd.
Gwareda’r holl feddyliau ffôl.
Yr anrhefn yn dy ben sydd yn mynnu’th ddal di nôl.
Geiriau gan Rhydian Meilir a Ffion Gwen o gân @NerthDyBen@twitter.com
#iechydmeddwl #meddwlarddyddllun
Er maint sydd yn y cwmwl tew
O law a rhew a rhyndod,
Fe ddaw eto haul ar fryn,
Nid ydyw hyn ond cawod. 🌤
#iechydmeddwl #meddwlarddyddllun